Senedd Brefi

Un o'r pethau mwyaf pwysig yr ydym yn ei gofio am Dewi yw'r hyn a ddigwyddodd pan oedd yn pregethu mewn lle o'r enw Brefi.

Daeth brenhinoedd, tywysogion, clerigwyr, a dynion a menywod cyffredin o bob ran o Gymru, i Brefi er mwyn clywed arweinwyr yr Eglwys yn dweud wrthynt am Dduw. Ar y pryd, roedd llawer o bobl yn troi yn erbyn yr hyn yr oedd yr Eglwys yn ei ddysgu, ac roedd yr esgobion am ddatrys y broblem. Roeddent am atgoffa'r bobl fod Duw wedi anfon ei Fab i'r byd er mwyn maddau eu pechodau, a dysgu iddyn nhw sut i fyw yn dda, gan garu ei gilydd.

Yr oedd cymaint o bobl wedi dod yno nes ei fod yn amhosibl iddyn nhw glywed yr hyn oedd gan yr esgobion i'w ddweud. Felly penderfynwyd gosod pentwr o ddillad fel llwyfan i'r esgobion sefyll arno. Penderfynwyd mai'r esgob y byddai yn cael ei glywed gan yr holl bobl, gan gynnwys y rhai ym mhen pella'r dyrfa, byddai'n cael ei ddewis yn archesgob.

Aeth pob esgob yn ei dro a sefyll ar ben y pentwr dillad i bregethu i'r bobl. Ond nid oeddynt yn cael eu clywed, ac roeddynt yn gofidio y byddai y bobl yn dechrau gadael. Yn rhyfedd, nid oedd Dewi ei hun yn bresennol. Awgrymodd Peulin y dylid anfon am Dewi, oherwydd os medrai unrhyw un bregethu i'r holl bobl, Dewi byddai hwnnw.

Aeth negeseuwyr ar unwaith i mofyn Dewi, ond gwrthododd ef ddod. Teimlai os oedd yr esgobion eraill wedi methu, mai methu y byddai yntau hefyd. Tair gwaith fe aeth y negeseuwyr at Dewi, ond gwrthododd eu cais bob tro.

Ond fe gafodd Dewi weledigaeth, ac ynddi cafodd wybod y byddai dau ddyn sanctaidd yn ymweld ag ef. A hynny ddigwyddodd. Gorchmynnodd Dewi ei fynachod i groesawu'r ymwelwyr, gan baratoi pryd arbennig o bysgod, bara, a dðr. Wedi cyfarch y dynion, siaradodd â nhw a'u gwahodd i eistedd a bwyta. Ond gwrthod wnaeth y dynion, hyd nes y byddai Dewi yn cytuno i ddychwelyd i'r senedd gyda nhw. Cytunodd Dewi i ddod, ond nid oedd am bregethu. Dywedodd y byddai ef yn helpu drwy weddïo drostynt.

Gobaith Newydd

Tra roedd Dewi ar ddau ddyn sanctaidd yn cerdded i'r cyfarfod, clywsant rywun yn crïo. Roedd y ddau ddyn am ddal ymlaen ar eu taith, ond dywedodd Dewi wrthynt ei fod am weld beth oedd yn bod. Gwelodd fam yn llefain uwchben corff ei mab a oedd newydd farw. Roedd y fam yn gwybod pwy oedd Dewi, ac am ei bod hefyd yn gwybod am ei allu i wella pobl, erfyniodd arno i ddod â'i mab yn ôl yn fyw. Wrth i Dewi lefain mewn tosturi, syrthiodd deigryn ar y bachgen gan adfer ei fywyd. Gyda dagrau o lawenydd, cyflwynodd y fam ei mab i ofal Dewi, fel y gallai ef hefyd dyfu i fyny yng ngwasanaeth Duw. Cymerodd Dewi y bachgen fel disgybl i'w fynachlog.

Dewi yn pregethu yn senedd Brefi

Roedd y dyrfa yn falch iawn i weld Dewi yn cyrraedd, ac fe gytunodd ef i bregethu. Pan ddechreuodd siarad, dyma golomen wen yn ymddangos o'r nefoedd ac yn disgyn ar ei ysgwydd. Y golomen oedd ysbryd Iesu Grist.

Roedd yn gyfarfod rhyfeddol, a phawb yn medru clywed Dewi, hyd yn oed y rhai oedd bellaf i ffwrdd. Seiniai ei lais fel trwmped, ac fel roedd yn pregethu cododd y tir o dan ei draed nes bod pawb yn medru ei weld.

Pregethodd Dewi i'r bobl am Dduw, gan ddweud mai Iesu oedd ei Fab, a'i fod wedi ei ddanfon i'r byd er mwyn eu gwaredu o'u pechodau. Ysbrydolwyd y bobl gan eiriau Dewi. Roeddynt yn ei fendithio ef, ac am ei gael ef fel arweinydd eu cenedl.


Llun gan Jack (oed 10)

NOL