Gwyrthiau Dewi


Nid oedd bywyd yn y fynachlog yn hawdd. Un haf daeth y mynachod at Dewi gan achwyn iddo fod yr afon a redai drwy'r cwm wedi sychu. Aeth Dewi i le tawel er mwyn siarad â'i angel gwarcheidiol a gweddïo ar Dduw. Wrth iddo weddïo clywodd sðn dðr yn rhedeg - roedd ffynnon o ddðr croyw wedi tarddu o'r pridd. Trodd y dðr yn win, ac fe'i defnyddiwyd gan y mynachod yn y Cymun Bendigaid.

Daeth hefyd un o'r ffermwyr lleol at Dewi gan achwyn pa mor anodd oedd ei waith am fod y pridd wedi troi'n sych ac yn galed. Erfyniodd ar Dewi i'w helpu, ac unwaith eto ymddangosodd tarddiad o ddðr oer, clir.

Aidan

Fe ddaeth mynachlog Dewi yn enwog drwy'r wlad. Daeth llawer o ddynion ifainc yno am eu bod am ddysgu mwy am Iesu. Un o'r mynachod hyn oedd Aidan. Yr oedd yn eiddgar i wneud ei orau, ac fe ddaeth yn gyfaill da i Dewi. Gwariai Aidan lawer o'i amser yn astudio, a phan oedd y tywydd yn braf byddai yn mynd allan â'i lyfr i'w ddarllen yn y caeau. Un bore braf, tra roedd yn darllen llyfr am Dduw, daeth y Prior ato a'i orchymyn i gymryd þch a chert i'r dyffryn i gasglu coed. Brysiodd Aidan i wneud y dasg gan adael y llyfr yn agored ar y glaswellt.

Wedi clymu'r coed i'r gert brysiodd yn ôl i'r fynachlog. Yr oedd y ffordd ar hyd yr arfordir yn beryglus, ac oherwydd ei frys cwympodd ef a'r llwyth o'r clogwyn uchel gan blymio tua'r môr. Yn crynu ag ofn, gweddïodd ar Dduw. Oherwydd bod ei ffydd yn gryf, roedd yn gwybod bod gan Dduw y gallu i achub ei fywyd. Yn wyrthiol fe'i cadwyd yn ddiogel rhag y tonnau a'r creigiau islaw.

Wrth iddo edrych o'i gwmpas mewn rhyddhad, dechreuodd cymylau duon stormus gau o'i amgylch. Yna tywalltodd y glaw yn llif gan lenwi y ffosydd â dðr. Er iddo gael ei achub rhag marwolaeth, roedd Aidan yn wynebu problem arall. Byddai'r glaw annisgwyl yn distrywio y llyfr yr oedd wedi ei adael yn agored yn y cae. Yr oedd llyfrau yn bethau gwerthfawr: fe gymerai fisoedd lawer i'r mynachod gopïo un llyfr yn unig.

Pan ddaeth yn ôl o'i daith, gollyngodd Aidan yr þch yn rhydd a rhedeg i'r cae ar frys. Roedd Duw yn gwybod am ofnau Aidan, ac yn gwybod sut yr oedd ef a'r mynachod eraill yn ofalus iawn o'u llyfrau. Gwelodd Aidan gyda syndod fod y llyfr yn dal i orwedd yn union fel y gadawodd ef; nid oedd y gwynt wedi cyffro ei dudalennau, ac nid oedd un diferyn o law wedi disgyn arno.

Pan glywodd y mynachod eraill am helynt Aidan, dyma nhw'n moli Duw a'u harweinydd, Dewi. Roedd gwybod bod Duw yn eu caru ac yn gofalu amdanynt yn ddigon o wobr am eu holl waith caled.

* * * * *

Mynach ufudd a gwylaidd oedd Aidan; un oedd yn eiddgar i ddysgu, ac un a wrandawai yn ofalus. Bywyd caled oedd bywyd mewn mynachlog. Byddai'r mynachod yn gweddïo am oriau lawer, a hefyd yn gweithio yn y meysydd er mwyn tyfu bwyd ar gyfer y bobl dlawd. Rhan o'u gwaith hefyd oedd cynnal y ffyrdd oedd yn arwain i'r fynachlog er mwyn i bererinion a masnachwyr fynd a dod yn hwylus.

Un diwrnod roedd Aidan yn cloddio'r tir ar fryn yn agos i'r fynachlog er mwyn gwneud ffordd. Sylwodd fod un o'r mynachod ddim yn tynnu ei bwysau, a gofynnodd iddo pam na wnâi fwy o ymdrech. Digiodd y mynach arall, ac yn ei dymer cododd erfyn haearn gyda'r bwriad o daro Aidan. Gwelodd Dewi hyn o'r pellter, gan sylweddoli beth oedd ar fin digwydd. Gwnaeth arwydd y Groes a phwyntio ei law tuag at y ddau ddyn, ac ar unwaith gwywodd llaw y mynach dig. Unwaith eto roedd Duw wedi rhoi i Dewi y gallu i gyflawnu gwyrth.


Aidan* a'r gwenyn

Un o ddyletswyddau arbennig Aidan oedd gofalu am gychod gwenyn mynachlog Dewi. Defnyddiwyd y mêl blasus gan y rhai oedd yn byw yno, yn ogystal â'r rhai a fyddai'n ymweld â'r fynachlog.

Ond daeth yr amser i Aidan adael y fynachlog. Roedd am deithio i Iwerddon i ddweud wrth y trigolion am Dduw.

Fel yr oedd yn byrddio'r llong a fyddai'n ei gludo i Iwerddon, fe'i dilynwyd gan y gwenyn roedd ef wedi bod mor ofalus ohonynt, a disgynnodd yr haid lle yr oedd Aidan yn eistedd. Gwyddai ef pa mor bwysig oedd y gwenyn i'r mynachod, ac felly aeth yn ôl at Dewi gyda'r gwenyn yn ei ddilyn. Wedi dychwelyd i'r fynachlog, setlodd y gwenyn yn ôl yn eu cychod ar unwaith.

Ffarweliodd Aidan eilwaith â Dewi a'r mynachod eraill, gan ddychwelyd i'r llong. Ond unwaith eto dilynodd y gwenyn ef, ac unwaith eto aeth Aidan â'r gwenyn yn ôl i'r fynachlog.

Wrth ddychwelyd i'r llong y trydydd tro fe glywodd eto sðn grwnan, a sylweddolodd bod ei ffrindiau yn dal i'w ddilyn! Aeth yn ôl i'r fynachlog drachefn, yn y gobaith y byddai'r gwenyn wedi blino erbyn hyn, ac y byddent yn aros yn eu cychod.

Pan welodd Dewi Aidan yn dychwelyd unwaith eto, sylweddolodd pa mor garedig ydoedd - yn dod yn ôl â'r gwenyn i'r fynachlog dro ar ôl tro. Yr oedd yn gwybod bod yna berthynas arbennig rhwng Aidan â'r gwenyn, felly rhoddodd ganiatâd iddo fynd â'r gwenyn gydag ef i Iwerddon. Wedi cyrraedd yno, darparodd y gwenyn ddigonedd o fêl - rhywbeth nad oedd wedi digwydd yn y wlad honno erioed o'r blaen.

*Fel 'Madog' byddai rhai pobl yn adnabod Aidan

Y Bara a Wenwynwyd

Un noswyl Pasg, pan oedd Aidan yn gweddïo mewn mynachlog yn Iwerddon, ymddangosodd angel iddo gan ei rybuddio am gynllwyn i wenwyno Dewi drannoeth, a'i orchymyn i ddanfon un o'i weision er mwyn rhybuddio Dewi. Roedd Aidan yn gwybod, hyd yn oed pe byddai yn danfon un o'r mynachod ar unwaith, na fyddai hwnnw yn medru croesi'r môr mewn da bryd i rybuddio Dewi. Ond atebodd yr angel y byddai ef ei hun yn trefnu hyn. Felly galwodd Aidan ar Scuthinus (a oedd hefyd wedi astudio yn Nhþddewi) a dweud wrtho i fynd i lan y môr lle byddai'r angel yn trefnu ei daith.

Roedd Scuthinus wedi ei gyffroi: sut byddai'r angel yn trefnu iddo deithio? Fe fyddai llong yn rhy araf. Tra roedd yn disgwyl, dechreuodd dðr y môr lapio o amgylch ei draed. Ac yna'n sydyn, o ddyfnderoedd y môr, ymddangosodd creadur hynod o brydferth, a'i gennau yn disgleirio yn yr haul. Daliodd Scuthinus yn dynn wrth wddf y creadur, a hedfanodd ar ei gefn yn ôl i arfordir Cymru.

Pan gyrhaeddodd ef Tþddewi, roedd y mynachod wedi gorffen gwasanaethau'r Pasg ac yn gwneud eu ffordd tuag at yr ystafell fwyta. Gwyddai Scuthinus nad oedd ganddo amser i'w golli. Rhedodd at Dewi gan ddweud wrtho am y cynllwyn milain. Gwrandawodd Dewi, cyn gwahodd Aidan i ymuno ag ef yn y pryd bwyd.

Wedi gofyn bendith, eisteddodd pawb i lawr i fwyta. Daeth mynach a gosod y bwyd o flaen Dewi, ond pan welodd y mynach Scuthinus fe ddechreuodd grynu. A phan dywedodd Aidan y byddai ef ei hunan yn darparu bwyd i Dewi, roedd y mynach dichelgar yn gwybod bod ei gynllwyn i wenwyno Dewi wedi cael ei ddarganfod. Ond sut?

Yn dawel, cymerodd Dewi'r bara a'i rannu'n dri darn. Rhoddodd un darn i gi, ac un arall i frân. Wrth iddynt ei flasu, bu farw'r ddau. Yna cymerodd Dewi y trydydd ran a'i fwyta. Digwyddodd dim iddo. Bu'r mynachod eraill yn ei wylio drwy gydol y dydd, gan ddisgwyl iddo farw unrhyw eiliad. Ond yn wyrthiol fe achubwyd Dewi - ac roedd y mynachod wedi gweld gallu Duw ar waith unwaith eto.

Barre

Ymledodd y storïau am y gwyrthiau a'r gweithredoedd da a gyflawnwyd ym mynachlog Dewi drwy'r wlad. Byddai teithwyr a masnachwyr yn clywed yr hanesion gan ddychwelyd i'w gwledydd eu hunain a'u hailadrodd. Roedd llawer o bobl yn dod ar bererindod i Dþddewi, ac un o'r rhain oedd abad Gwyddelig o'r enw Barre. Roedd wedi teithio o Iwerddon i Rufain er mwyn ymweld â'r mannau cysegredig yno. Wrth ddychwelyd adref, penderfynodd ymweld â Dewi, a bu'r ddau yn treulio'u hamser yn siarad am Dduw.

Pan ddaeth yr amser i Barre fynd yn ôl i Iwerddon, ni allai ei long adael y porthladd am nad oedd yna ddigon o wynt i'w chario ar draws y môr. Dechreuodd Barre ofidio: os na fyddai yn dychwelyd i'w fynachlog ei hun cyn bo hir, fe allai problemau godi.

Os na allai'r llong hwylio, sut y medrai fynd adref? Roedd wedi clywed storïau am greaduriaid rhyfeddol o'r môr yn cludo pobl. Roedd gan Dewi geffyl; yn ddiau fe allai ddefnyddio hwnnw. Gyda Duw, roedd popeth yn bosibl. Rhoddodd Dewi ganiatâd i Barre ddefnyddio ei geffyl. Carlamodd ar ei gefn yn gyflym tua'r môr, a heb arafu ar y traeth plymiodd ar ei union i'r dwfn - lle torrodd y ceffyl fel aradr drwy'r tonnau heb unrhyw anhawster.

Wrth groesi'r môr, sylwodd Barre ar rywbeth yn symud yn y pellter. Wrth ddod yn nes, gwelodd mai'r teithiwr enwog Sant Brendan ydoedd - yn marchogaeth ar gefn anghenfil o'r môr. Roedd Brendan wedi ei syfrdanu o weld Barre yno ar gefn ceffyl, ond sylweddolodd mai Duw oedd wedi gwneud hyn yn bosibl. Dyma'r ddau yn cyfarfod ac yn trafod eu teithiau a'u pererindodau. Wrth iddyn nhw ymadael â'i gilydd, ffarweliodd Brendan â Barre gan ddymuno iddo fynd ar ei ffordd mewn tangnefedd.

Aeth Barre ymlaen â'i daith gan gyrraedd adref yn ddiogel. Gofalodd y mynachod ym mynachlog Barre am geffyl Dewi hyd at ei farwolaeth, gan wneud cerflun ohono er mwyn iddynt gofio am byth am y wyrth a gyflawnwyd ar y môr.


NOL