Pwy yw nawddsant Cymru?
Ton: In and Out the Windows
Pwy yw nawddsant Cymru? (x3)
Wel Dewi Sant yw ef.
Ble cafodd ef ei fagu?
Ar lannau Teifi lon.
Pwy oedd mam Sant Dewi?
Y Santes Non oedd hi.
Enw'r dad, beth ydoedd?
Y Brenin Sandde oedd.
Ble roedd ysgol Dewi?
Yng Nglyn y Rhosyn draw.
A wyddai ef am Iesu?
Bu drosto'n gennad gwir.
Pryd bu Dewi farw?
Ar Galan Mawrth ryw dro.
Dyma pan y dathlwn,
Ei wyl y diwrnod hwn.