Cerddi

Dydd Gðyl Dewi

Yn 'r ysgol d'wedon nhw
mai dyma'r dydd
daeth Iesu
gyda llu'r angylion
yma i Gymru fach.

Roedd yn yr heulwen
gân ddiddiwedd -
a chludwyd enaid Dewi
ymaith fry
i'r nef.

Meddyliais,
"Mae'n rhaid fod hwn
yn berson da
cyn delai Mab y Dyn
i'w hôl."

Trwy ffenest 'stafell ddosbarth
gwelsom ni'r gwyn olaf
'n oedi yma a thraw,
a'r egin gwyrdd arwrol
yn trywanu drwy
garped soeglyd
dail yr hydref gynt.

A'r llafnau balch
a ledodd
eu baneri melyn -
eu harfbais byw
o Dewi Sant
a chalon
Cymru.

Efelychiad o gerdd gan David Watkin Price

DYDD GÐYL DEWI

Yn ôl o hirlwm gaeaf daw y tir
fel dychwel sant o'i bererindod hir,
gan ddwyn aderyn gwyn a blodyn cain
dros fryniau sydd fel dreigiau 'nghlwm mewn maen.

Daw'r wyrth flynyddol eto i'r erwau llwm -
mae cennin Pedr heddiw'n aur ar gwm;
ac uwch ein pennau yn goleuo'r nen
mae arwydd Dewi - y golomen wen.

Yn seiliedig ar gerdd gan Stanley Cook


BACK